Yng Nghysgod Tryfan a’r Glyderau – Llyn Caseg-fraith
Mae hon yn daith gerdded hanner diwrnod a’r gyntaf o nifer o deithiau at lynnoedd bychan a llynnoedd mynydd yn ystod 2024.
Manylion y Daith Gerdded
Gan ddechrau yn Ogwen byddwn yn cerdded i fyny Cwm Tryfan hyd at lwybr y Mwynwyr yna’n esgyn i Lyn Caseg-fraith, llyn mynydd bychan ar lethrau isaf y Glyderau. Byddwn yn cerdded i lawr at fferm Gwern Gof Isaf ac yn ymuno â’r llwybr yn ôl i’r dechrau.
Er mai taith gerdded hanner diwrnod yw hon, mae ar dir mynyddig. Mae rhannau o’r esgyniad yn serth a chreigiog. Mae rhannau o’r disgyniad yn ddi-lwybr ac yn gorsiog.
- 3-4 awr
- Pellter: 7 cilomedr / 4.3 milltir
- Esgynfa: 482 metr / 1581 troedfedd
- Cyfarfod: Y gilfan hir wrth odre Tryfan wrth y fynedfa i Gwern Gof Uchaf.
- Meet Time: 09:00
- Start Time: 09:15
- Gradd: Cymedrol
Archebu lle ar y Daith Gerdded hon
I archebu lle ar y daith gerdded hon ymlaen llaw, defnyddiwch fanylion cyswllt arweinydd y daith gerdded isod.
Arweinydd y Daith Gerdded
Noder
- Mae’n rhaid i bob ci fod ar dennyn.
- Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau am y daith gerdded at arweinydd y daith gerdded.