Taith Gerdded Craflwyn, Hafod y Llan a Llyn Dinas
Mae’r daith hon yn un gylchol sy’n yn dechrau o Graflwyn – mae’r daith hon yn ein galluogi i archwilio llawer o ddyffryn ehangach Nant Gwynant.
Manylion y Daith Gerdded
On this walk we’ll take in the wild and lonely heath and ffridd beneath Yr Aran, the lower slope of Yr Wyddfa, the amazing waterfalls of Afon Cwm Llan and the beautiful Llyn Dinas.
Ar y daith hon byddwn yn cerdded drwy’r ffridd anial o dan lethrau’r Aran, llethr isaf Yr Wyddfa, rhaeadrau gwych Afon Cwm Llan a Llyn Dinas hardd. Mae’r daith gerdded yn cynnwys dringfa gyson dros dir garw, sy’n cynnwys tir heriol amrywiol gan gynnwys llwybrau creigiog, serth gyda cherrig rhydd, grisiau creigiog a llwybrau gwlyb, mwdlyd a nifer o gamfeydd. Mae hefyd yn cynnwys croesi a cherdded ar hyd rhan o’r A498. Mae’r hanner cyntaf yn fynyddig a chorsiog mewn rhannau.
- Hyd: 5 awr
- Pellter: 10.4 cilomedr / 6.5 milltir
- Esgynfa: 509 metr / 1670 troedfedd
- Cyfarfod: Maes Parcio Craflwyn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol SH 600 489 (Am ddim i aelodau’r YG)
- Meet Time: 10:15
- Start Time: 10:30
- Gradd: Canolig
Archebu lle ar y Daith Gerdded hon
I archebu lle ar y daith gerdded hon ymlaen llaw, defnyddiwch fanylion cyswllt arweinydd y daith gerdded isod.
Arweinydd y Daith Gerdded
Noder
- Caniateir cŵn ond mae’n rhaid eu cadw ar dennyn oherwydd byddwn yn croesi tir lle mae da byw, a defaid yn arbennig.
- Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau am y daith gerdded at arweinydd y daith gerdded.