Gwybodaeth Archebu
Darllenwch y wybodaeth isod cyn archebu lle ar un o’n teithiau cerdded. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen rhywfaint o gyngor arnoch ar addasrwydd taith gerdded, cysylltwch â ni.
Graddau Taith Gerdded
Dylid nodi bod y graddau wedi’u dyfarnu gan Arweinydd y Daith Gerdded a dylid eu defnyddio fel canllaw yn unig. Mae graddau’r teithiau cerdded fel a ganlyn:
- A.Caled. Yn aml dros dir garw, uchel, sy’n cynnwys esgyniadau/gostyngiadau serth. Mae pob taith gerdded dros 10 milltir / 16 cilomedr a/neu deithiau cerdded llai o bellter ond gydag esgyniad o dros 2000 troedfedd/600m. Bydd gan y teithiau hyn nifer o ardaloedd a all roi pwysau ar allu corfforol a meddyliol y cerddwr. Mae nifer o esgyniadau/gostyngiadau yn ystod y daith gerdded, a bydd angen mordwyo a gosod traed yn ofalus ar y llwybr ar adegau. Mae esgyniadau a gostyngiadau serth, tir gwlyb a phellter hir yn cyfrannu at ddynodiad “A ”.
- B+.Mynydd Cymedrol. Teithiau cerdded gyda mwy na 1,000 troedfedd /300m ond gyda mwy o ddifrifoldeb.
- B.Cymedrol – llwybrau bryniau a rhostir. 6 – 10 milltir/9.6 – 16 cilomedr gyda chyfanswm esgyniad sy’n llai na 2000 troedfedd/600m. Taith gerdded a fydd yn cynnwys rhai rhannau mwy ymestynnol yn gorfforol neu’n feddyliol. Efallai y bydd nifer o esgyniadau a disgyniadau y gellid eu hystyried yn heriol, eto gallai B+ fod ychydig yn fwy heriol.
- C+.Haws na Chymedrol. Gwastad yn bennaf ond gallai gynnwys llethrau – llai na 17 cilomedr (10.5 milltir).
- C.Hawdd. Llai na 5 milltir /8 cilomedr gyda chyfanswm esgyniad sy’n llai na 1,000 troedfedd/300m. Gwastad ar y cyfan – llai na 12 cilomedr (7.5 milltir).
Amser Dechrau
Fel y nodir yn y rhaglen, dylech gyrraedd o leiaf 15 munud cyn dechrau pob taith gerdded er mwyn cofrestru. Bydd y teithiau yn dechrau ar yr amser dechrau a nodwyd, p’un a yw’r holl gyfranogwyr wedi cyrraedd ai peidio.
Tywydd
Gall arweinwyr y daith gerdded ohirio neu newid y llwybr pan fydd tywydd gwael. Dylech sicrhau pan fyddwch yn archebu eich bod yn darparu eich manylion cyswllt rhag ofn y bydd angen i Arweinydd y Daith Gerdded gysylltu â chi ynglŷn â’r daith.
Newidiadau
Mae gan y trefnwyr yr hawl i newid y rhaglen heb rybudd o flaen llaw. Credir bod y manylion yn y rhaglen yn gywir ar adeg cyhoeddi. Mae arweinydd y daith gerdded yn cadw’r hawl i newid llwybr y daith gerdded unrhyw amser cyn neu yn ystod y daith gerdded pan fydd angen.
Ffotograffau
Yn ystod y teithiau cerdded, mae’n bosibl y bydd arweinwyr y teithiau cerdded yn cymryd ffotograffau o’r cerddwyr i’w defnyddio o bosibl yn neunydd cyhoeddusrwydd a Gwefan a thudalennau Facebook Cerdded Conwy Walks. Rhowch wybod i’r arweinydd pe byddai’n well gennych beidio ymddangos yn unrhyw rai o’r ffotograffau.