Gwefan newydd Cerdded Conwy Walks

Croeso i wefan newydd Cerdded Conwy Walks a’n cylchlythyr cyntaf. Rydym yn griw cyfeillgar o gefndiroedd amrywiol sy’n rhannu diddordeb mewn cerdded ar hyd llwybrau amrywiol o amgylch Gogledd Cymru. Ac mae digon o ddewis ohonynt – miloedd o gilomedrau yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae taith gerdded dda yn aml yn dechrau drwy edrych yn fanwl ar fap, chwilio am ffyrdd newydd neu addasu hen ffefrynnau. Dilynir y cam cynllunio gan y ‘rhagchwiliad’. Dyma’r camau cyffrous cyntaf lle byddwn yn mynd i’r afael â’r llwybr arfaethedig. Yn aml byddwn yn cynnal nifer o ‘ragchwiliadau’ eraill i gadarnhau’r manylion, amseroedd ac yn cynnal asesiad risg o lwybrau’r daith.

Mae cael cipolwg ar y wefan Arolwg Ordnans (OS) yn dangos y mathau niferus o lwybrau sydd ar gael: llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd sydd ar agor i unrhyw draffig. Yn ogystal â’r rhai a restrir gan yr OS mae amrywiadau lleol, er enghraifft cerrig terfyn hirsgwar unionsyth y Carneddau Gogleddol – mynegbyst a groesawir pan fydd y cymylau isel. Mae’n debyg i’r cerrig hyn gael eu gosod gan weithwyr y cyngor flynyddoedd yn ôl.

Y dyddiau hyn, oherwydd y wasgfa ar gyllidebau Awdurdodau Lleol o ganlyniad i lai o gyllid ac effeithiau chwyddiant, nid yw’n anarferol i waith cynnal a chadw llwybrau gael ei gyflawni gan wirfoddolwyr fel Y Cerddwyr, Cymdeithas Eryri a grwpiau o drigolion fel y rhai yn Nolgarrog, sy’n adnewyddu llwybrau nad ydynt wedi’u defnyddio dros y blynyddoedd.

Lots of our paths have been around a long time: it’s reckoned that the Romans built about 10,000 km of their famous roads on top of pre-existing tracks and ways from about AD 43 onwards. For example, the stone circles above Penmaenmawr shows that some of these date from Neolithic times, and that parts of the North Wales path probably existed then as ancient locals went about their business. So, the next time you’re out on a walk with one of our experienced leaders please spare a thought for the rich history, hard work and planning involved. We hope and look forward to welcoming you on one of our walks soon.


Tîm Cerdded Conwy Walks